James Pantefedwyn Foundation

01970 612806post@jamespantyfedwen.cymru

☰ Menu

Eglwys St John Birchgrove

Gan fod neuadd yr eglwys sydd yn gysylltiedig ag Eglwys St John yn Birchgrove wedi'i dymchwel i adeiladu 4 byngalo newydd, roedd aelodau'r eglwys yn awyddus i droi'r eglwys ei hun yn adeilad hollol aml-bwrpas, er mwyn darparu man addoli, neuadd, toiled newydd i'r anabl, cegin newydd, a mynedfa newydd i'r anabl.

Dechreuodd y gwaith ym mis Ebrill 2019 ac fe’i cwblhawyd bron i ddwy flynedd yn ddiweddarach; bu tipyn o oedi yn sgil darganfod ystlumod yn neuadd yr eglwys, tywydd gwael iawn ac yna’r pandemig yn torri ar draws popeth. Fodd bynnag, mae pawb sy'n gysylltiedig â’r prosiect bellach yn falch iawn â’r canlyniad terfynol, ac mae buddsoddiad o tua £540,000 wedi troi ardal nas defnyddiwyd rhyw lawer yn gartref i bedwar teulu ac eglwys aml-bwrpas sydd wedi cynnig bywyd a chyfleoedd newydd i gymuned Birchgrove. Bellach, dechreuwyd oedfaon wyneb yn wyneb yn yr eglwys bob pythefnos, ac fe’i defnyddir eisoes ar gyfer Clwb Dawns, cylch chwarae, a chlybiau crefft. Bydd y gweithgareddau hyn yn cynyddu ac ehangu maes o law.

Mae aelodau’r eglwys yn ddiolchgar dros ben i bawb sydd wedi cyfrannu cyllid tuag at y prosiect hynod lwyddiannus hwn.