James Pantefedwyn Foundation

01970 612806post@jamespantyfedwen.cymru

☰ Menu

Eglwys Sant Illtud, Pentre'r Eglwys

Adeilad rhestredig Gradd II wedi’i leoli ym Mhentre’r Eglwys, Rhondda Cynon Taf yw Eglwys Sant Illtud. Nod y prosiect diweddaraf hwn oedd sicrhau diogelwch y twr gan ei fod yn colli cladin sment y 1970au y waliau allanol. Roedd dŵr yn cael ei gadw o fewn y cerrig gwreiddiol gan fod y cladin anghywir wedi'i osod yn y 1970au; roedd y gwaith paent mewnol wedyn yn mynd yn llaith a diraen gan achosi problemau  

Erbyn hyn mae'r cladin wedi'i adnewyddu’n llwyr a rendr calch cywir wedi’i osod er mwyn caniatáu i'r twr ‘anadlu’ eto. Llwyddwyd i gael gwell awyru trwy ailagor fentiau a gafodd eu cau yn y 1970au, gosodwyd mesurau atal ystlumod ac adar, ac ail-baentiwyd y tu allan. Adnewyddwyd y drysau ac maent bellach yn agor a chau yn hawdd. Bydd yr Eglwys yn ailagor ddiwedd mis Tachwedd (Sul yr Adfent) mewn modd sydd bellach yn ddiogel i bawb.

Mae'r Plwyf yn ddiolchgar iawn i'r Ymddiriedolaeth am ei chyfraniad a’i chymorth er mwyn caniatáu i'r tasgau uchod gael eu cwblhau.