James Pantefedwyn Foundation

01970 612806post@jamespantyfedwen.cymru

☰ Menu

Eglwys San Cybi, Caergybi

Mae Eglwys Sant Cybi yn adeilad Gradd 1 yng nghanol Caergybi. Bu cymuned grefyddol ar yr union safle ers cael ei sefydlu gan San Cybi tua 540. Nodwyd yn 2016 fod angen atgyweiriadau brys ar yr eglwys, ac ar ôl sicrhau digon o gyllid, cychwynnodd y gwaith yn 2019. Yn sgil y Covid-19 wrth gwrs, mae’r cyfan wedi cymryd mwy o amser na'r disgwyl, ond mae’r eglwys yn falch cyhoeddi fod y gwaith bellach wedi’i gwblhau.

Prif ffocws y gwaith oedd cadw ac adfer y cerfiadau ar ochr ddeheuol yr eglwys. Mae'r rhain yn dyddio o'r 16eg ganrif ac wedi dioddef llawer dros y canrifoedd, gydag effaith erydiad a llygredd. Mae'r cerfiadau pwysig wedi cael eu glanhau'n ofalus a'u gorchuddio â haen amddiffynnol arbennig er mwyn eu harbed gymaint ag y gellir rhag difrod pellach. Mae'r cerfiadau hyn yn cynnwys grŵp eclectig o ddelweddau, o angylion i fwystfilod chwedlonol. Mae'r bwystfilod chwedlonol yn cynnwys amffisbaena, bwystfil gyda phen ar ddiwedd ei gynffon, a chredir fod y creadur hwn â’r pŵer i sicrhau beichiogrwydd diogel, ar adeg pan oedd genedigaeth yn gallu bod yn anodd a pheryglus.

Gan fod seiri maen ar y safle, manteisiwyd ar y cyfle i atgyweirio'r ffenestri ym Mhorth y De. Roedd y rhain wedi’u malu gan fyddin Oliver Cromwell yn y 1650au, felly roedd yn hen bryd eu trwsio! Mae'r ffenestri bellach wedi'u hatgyweirio a'u hadnewyddu, a gosodwyd drysau gwydr newydd, pwrpasol a deniadol, yn y fynedfa sy’n arwain  at yr eglwys.

Ni fyddai dim o'r gwaith hwn wedi bod yn bosibl heb gymorth hael llawer o gyrff cyllido, gan gynnwys Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, Sefydliad Garfield Weston, Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen, Ymddiriedolaeth Allchurches, Cronfa WG Roberts a Chorff Cynrychioliadol yr Eglwys yng Nghymru. Mae'r eglwys yn ddiolchgar iawn am yr holl gymorth a chefnogaeth yn ystod y prosiect.