James Pantefedwyn Foundation

01970 612806post@jamespantyfedwen.cymru

☰ Menu

Capel Bryngwenith, Henllan

Yn ystod 2021, roedd Capel Bryngwenith yn dathlu trigain mlynedd ers dechrau adeiladu’r festri, ac roedd yr aelodau’n awyddus i ail-wneud y lle, gan osod toiledau a chegin newydd a phrynu byrddau a chadeiriau esmwyth ac ymarferol. Ar hyd y blynyddoedd roedd yn rhaid defnyddio cyfleusterau yn y maes parcio, oedd braidd yn bell ac anghyfleus, ond bellach mae’r cyfleusterau oddi fewn i’r festri; tynnwyd y llwyfan oedd yn y brif neuadd ac adeiladu cegin newydd yn ei le, a gosod ffenestri gwydr clir i weld allan am y maes parcio. Gan fod y festri’n cael ei defnyddio’n helaeth gan yr eglwys a’r gymuned leol i wahanol weithgareddau, mae bellach yn adnodd cymunedol mwy gwerthfawr at ddefnydd y gymdogaeth gyfan. Bu’r aelodau’n ddyfal yn gweithredu syniadau difyr i godi arian mewn cyfnod anodd, ac roeddent yn ddiolchgar iawn i Bantyfedwen am gymorth hael i gwblhau’r gwelliannau.