James Pantefedwyn Foundation

01970 612806post@jamespantyfedwen.cymru

☰ Menu

Eglwys St Paul Aberystwyth

Roedd Eglwys Fethodistaidd St Paul yn Aberystwyth yn awyddus i ail-wneud eu cegin yn yr eglwys, gan fod hon yn cael ei defnyddio gan gynulleidfaoedd yr eglwys, ond hefyd yn darparu Bar Coffi dros amser cinio ddyddiau’r wythnos. Mae’r bar coffi yn darparu diodydd a phrydau ysgafn am bris isel, a bob dydd Iau darperir cinio Pay as You Go gan ddefnyddio bwydydd sydd dros ben gan archfarchnadoedd lleol. Daw nifer dda o’r gymuned leol i’r caffi gan gynnwys rhai o bobl ddi-gartref yr ardal. Roedd aelodau St Paul yn ddiolchgar iawn am y grant gan Bantyfedwen i gefnogi’r gwaith ar y gegin newydd, ac edrychir ymlaen at ail-ddechrau’r gwasanaethau i’r gymuned pan fydd hynny’n bosib wedi’r pandemig.