James Pantefedwyn Foundation

01970 612806post@jamespantyfedwen.cymru

☰ Menu

Luke Ian Lunn

Mae’r cyfleoedd a roddwyd i mi gyda chefnogaeth Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen yn niferus ac yn werthfawr dros ben. Gyda'u cymorth, llwyddais i gwblhau gradd Meistr ym maes Cyfrifiadureg, lle bûm yn gweithio ar gymwysiadau dysgu peiriannau ar gyfer dosbarthu symudiadau gan ddefnyddio ategolion smart. Drwy’r gwaith, llwyddais i ehangu fy niddordebau a datblygu fy sgiliau ym maes datblygu meddalwedd, deallusrwydd artiffisial, siarad cyhoeddus, ac ysgrifennu gwyddonol. Ers hynny, rwyf wedi ennill lle ar raglen ysgoloriaeth PhD lle rwyf bellach yn gweithio ar feddalwedd lliwio ar gyfer technolegau camera gyda’r bwriad o gynorthwyo rhaglen grwydrol Mars gydag Asiantaeth Ofod Ewrop i chwilio am fywyd ar y blaned Mawrth. Yn benodol, rydw i nawr yn mwynhau gweithio gyda’r Panoramic Camera Emulator ym Mhrifysgol Aberystwyth (AUPE) a thîm PanCam, yma yn y brifysgol ac yn Ewrop.