James Pantefedwyn Foundation

01970 612806post@jamespantyfedwen.cymru

☰ Menu

Sally Elizabeth Sadler

Rwy’n ddiolchgar iawn i Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen am y grant hael a roddwyd ganddynt tuag at ffioedd fy ngradd Meistr mewn Diwinyddiaeth. Pan wnes i nghais i Brifysgol Caerdydd am y tro cyntaf yn 2018 doedd gen i ddim syniad y byddai’n cymryd cymaint o amser i mi gwblhau fy astudiaethau, ond ar y pryd ni sylweddolodd neb fod Covid ar ei ffordd na’r effaith y byddai’n ei gael ar gynifer o fywydau.

Cynigia Prifysgol Caerdydd sawl llwybr i’w myfyrwyr MTh, gyda’r hyfforddiant yn cael ei gynnig ar y cyd trwy Goleg Bedyddwyr De Cymru ac Athrofa Padarn Sant. Dewisais yr opsiwn diwinyddiaeth ymarferol ar gyfer pobl mewn unrhyw fath o weinidogaeth Gristnogol; roedd y llwythbor hwn yn cynnig modiwlau megis 'Diwinyddiaethau Cenhadol Cyfoes', 'Gweinidogaeth yn y Gymdeithas Gyfoes', a’r ‘Testament Newydd o fewn Persbectif Cymdeithasol '. Gwerthfawrogais yr amrywiaeth o opsiynau oedd ar gael, a'u cael yn ysbrydoliaeth.

Ar gyfer fy nhraethawd hir edrychais ar garolau plygain, a cheisio gweld a oes rôl i’r canu plygain heddiw yng nghyd-destun cenhadaeth yr eglwys ar gyfer cenhadaeth ac ymestyn allan. Mae’r plygain yn rhan bwysig o draddodiad ysbrydol y Gymru Gymraeg, yn enwedig ym Maldwyn a Sir Gaerfyrddin, ond mae carolau plygain bron yn anhysbys y tu allan i ardaloedd Cymraeg eu hiaith. Ond fel rhan bwysig o etifeddiaeth y wlad credaf eu bod yn haeddu ymwybyddiaeth ehangach. Gobeithiaf allu mynd ar drywydd hyn yn y dyfodol drwy, o bosib, gyflwyno’r carolau hyn i bobl nad ydynt, hyd yma, yn ymwybodol o’r dyfnder sydd ynddynt.

Diolch yn fawr am eich nawdd hael. Bu’r cwrs o fudd i mi mewn sawl ffordd, a bydd y sgiliau trosglwyddadwy a ddysgais yn ddefnyddiol i mi drwy gydol fy mywyd.