James Pantefedwyn Foundation

01970 612806post@jamespantyfedwen.cymru

☰ Menu

Rhoslyn Beckwith

Byddaf bob amser yn hynod ddiolchgar i Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen am wneud fy noethuriaeth mewn Astudiaethau Almaeneg ym Mhrifysgol Abertawe yn bosibl. Mae wir wedi arwain fy mywyd ar lwybr gwahanol, a diolch i gefnogaeth yr elusen am wneud hyn yn bosibl.

Dechreuais fy PhD yn hydref 2018 ac er i’r cyfnod fod yn un o adegau anoddaf fy mywyd, gyda cholli fy mam i ganser a gorfod parhau â’m doethuriaeth drwy’r pandemig, rwy’n falch iawn o’r hyn a gyflawnais. Diolch i haelioni James Pantyfedwen, llwyddais i wneud y gorau o’m profiad PhD, gan neilltuo fy amser i ymchwilio, astudio a datblygu’r sgiliau sydd eu hangen yn y byd academaidd.

Roeddwn yn falch o allu ysgrifennu a chyhoeddi erthygl yn un o’r cyfnodolion mwyaf blaenllaw yn fy maes, German Life and Letters, yn ogystal â chyflwyno fy ymchwil mewn cymaint o gynadleddau cyffrous, gan gynnwys sawl un yn yr Almaen (trwy Zoom). Cefais fy newis hefyd i gyflwyno darlith fawreddog Sylvia Naish yn Senedd-dŷ Prifysgol Llundain yn 2022 ar ‘Sex and the Sisi’, gan gyfeirio at Ymerodres Awstria o’r 1800au a’r cynrychioliadau cyfoes, ôl-fodernaidd sy’n dangos ochr eithaf gwahanol i'w bywyd.

Cefais hefyd y cyfle i addysgu israddedigion ym Mhrifysgol Abertawe, gan gwmpasu ystod eang o bynciau o lenyddiaeth Ewropeaidd i Almaeneg i ddechreuwyr a modiwlau ffilm. Ar yr un pryd, roedd yn anrhydedd cael fy ngwahodd i fod yn aelod o bwyllgor y Colocwiwm  Cenedlaethol Ôl-raddedig ar gyfer Astudiaethau Almaeneg, gan drefnu diwrnodau cynadledda rhithwir i fyfyrwyr ledled y DG er mwyn cynnig cymorth a chefnogaeth iddynt.

Llwyddais i barhau i astudio Cymraeg hefyd ar Zoom, gan ennill tlws coffa Basil Davies, a gyflwynwyd gan CBAC a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol am ennill y marc uchaf yn arholiad Sylfaen CBAC yn 2022.

Dim ond oherwydd cefnogaeth Pantyfedwen y bu hyn i gyd yn bosibl. Mae fy PhD wedi dysgu cymaint i mi am hunaniaeth, cof, a rôl menywod mewn cymdeithas ac rwyf wedi tyfu fel person trwy’r cyfleoedd a gefais. O ganlyniad i’r cyfnod rydyn ni i gyd wedi byw drwyddo a’r ymwybyddiaeth gynyddol o’r angen am fwy o gymorth iechyd meddwl - rhywbeth y mae hanes mor aml wedi ei ddileu wrth ddarlunio menywod hanesyddol perffaith - rydw i nawr yn astudio cwrs MSc mewn seicoleg, pwnc rydw i wedi dod yn fwyfwy angerddol amdano wrth i mi symud ymlaen trwy fy noethuriaeth.