James Pantefedwyn Foundation

01970 612806post@jamespantyfedwen.cymru

☰ Menu

Megan Pates

Yn 2021, ar ôl 3 blynedd wych yn astudio’r Gyfraith gyda Chymraeg ym Mhrifysgol Bangor, fe wnes i raddio gyda dosbarth cyntaf. Y cam nesaf ar fy nhaith i ddod yn gyfreithiwr oedd cwblhau’r LPC, hynny yw Cwrs Ymarfer Cyfreithiol, cwrs sydd rhaid pasio i gymhwyso fel cyfreithiwr. Er mwyn dysgu cymaint o wybodaeth werthfawr â phosib, penderfynais i gwblhau fy nghwrs Meistr - Ymarfer Cyfreithiol Proffesiynol - ar yr un pryd. Yr unig ffordd y gallwn wneud hyn oedd gyda chymorth Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen.

Diolch i gymorth Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen, roeddwn i’n gallu canolbwyntio’n hollol ar y cwrs a’r arholiadau heb boeni am unrhyw rwystrau ariannol. Roedd astudio’r cwrs yma yn fuddiol iawn i mi; dysgais i amryw o sgiliau amhrisiadwy yn y maes cyfreithiol, gan gynnwys drafftio dogfennau cyfreithiol, a sgiliau cyfweld ȃ cleientiaid. Ar ôl blwyddyn brysur ond pwysig iawn, fe wnes i gwblhau a phasio’r ddau gwrs.

Erbyn heddiw, rydw i gam ymlaen eto ar fy nhaith i ddod yn gyfreithiwr, ac yn gweithio fel paralegal ymgyfreithiol yn Abertawe. Rydw i’n dysgu a datblygu sgiliau newydd bob dydd, a dwi mor gyffrous i barhau i ddysgu mwy am y maes. Ni fyddai unrhyw un o’r cyfleoedd yma wedi bod yn bosib heb gymorth Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen, ac rydw i’n hynod o ddiolchgar am yr help wnes i dderbyn. Fy nghynllun nawr yw gobeithio ennill cytundeb hyfforddiant o fewn swyddfa cyfreithwyr, lle bydd modd i mi gymhwyso fel cyfreithiwr.

Diolch yn fawr.