Rhys Meilyr Jones
Mi wnaeth cymorth grant o Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen roi’r cyfle i mi gwblhau cwrs Meistr gyda Rhagoriaeth yn yr Academi Frenhinol yn Llundain. Wrth i mi astudio, cefais y cyfle i weithio gyda hyfforddwyr iaith ar amrywiaeth o ieithoedd, megis Eidaleg, Ffrangeg, Almaeneg a Rwseg. Yn dilyn hyn, roeddwn yn cael y cyfle i berfformio’r ieithoedd gwahanol mewn golygfeydd opera a dosbarthiadau Meistr gydag enwau enwog fel Nicky Spence, Wolfgang Holzmair a Richard Stokes.
Rhoddodd cefnogaeth yr Ymddiriedolaeth yr hyder i mi gael clyweliad gyda Longborough Festival Opera, ac o ganlyniad, yn haf 2023, cefais gynnig i fod yn rhan o gorws proffesiynol yn L’elisir d’amore gan Donizetti.
Ers y cwrs Meistr, mi rydw i wedi dod yn ôl i Gymru i astudio cwrs pellach, wrth ymuno â chwrs Opera David Seligman yn y Coleg Cerdd a Drama yng Nghaerdydd. Y tymor yma, mi fyddai’n chwarae’r cymeriad ‘Gherardo’ mewn opera gan Puccini o’r enw Gianni Schicchi, o dan arweiniad Carlo Rizzi.
Roedd hi’n bleser cael bod yn rhan o deulu Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen. Heb y cymorth a’r gefnogaeth hael, mi fysa hi’n agos i amhosib cwblhau’r astudiaeth yn Llundain.
Diolch o galon am adael i mi ddatblygu’r llais a rhoi’r platfform i mi wneud yr hyn yr ydw i’n ei garu.