James Pantefedwyn Foundation

01970 612806post@jamespantyfedwen.cymru

☰ Menu

Mary Heading

Ar ôl astudio crefydd ar lefel TGAU a Chweched Dosbarth, penderfynais ehangu fy niddordeb ac astudio Diwinyddiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd. Roedd fy ngradd israddedig yn cwmpasu ystod eang o themâu ar draws nifer o wahanol grefyddau, oedd yn ddiddorol tu hwnt, ond cynigiodd y rhaglen Meistr Diwinyddiaeth y cyfle i mi ganolbwyntio’n fwy dwys ar bynciau o ddiddordeb personol.

Diolch i haelioni Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen, llwyddais i astudio Diwinyddiaeth ar lefel Meistr heb bryder ariannol. Roedd y cwrs yn cynnwys astudio ym Mhrifysgol Caerdydd, Coleg Bedyddwyr Caerdydd ac Athrofa Padarn Sant gan ganiatáu i mi gwrdd â phobl o amrywiaeth o enwadau a chreu cysylltiadau gwerthfawr.

Rwyf bellach yn gweithio fel Swyddog Cymorth i Ardal Weinidogaeth newydd a sefydlwyd yng Ngogledd Sir Fynwy. Mae’r gwaith yn cynnwys amrywiaeth o gyfrifoldebau gweinyddol megis paratoi cofnodion cyfarfodydd, datblygu gwefan, rheoli cyfryngau cymdeithasol a  chyfathrebu â swyddfeydd y Comisiwn Esgobaethol a’r Comisiwn Elusennau. Mae ochr ymarferol i'r swydd hefyd pan fyddaf yn cyfarfod â chlerigwyr a phlwyfolion mewn gwahanol gyfarfodydd, gwasanaethau a digwyddiadau. Mae’r Swyddog Cymorth yn fan cyswllt cyntaf defnyddiol ar gyfer unrhyw broblemau neu bryderon sy’n codi o ganlyniad i’r newidiadau a wnaed, er mwyn ceisio sicrhau trosglwyddiad esmwyth o’r Plwyf i’r Ardal Weinidogaeth newydd.

Heb os nac oni bai, rhoddodd y cwrs Meistr y cefndir diwinyddol i mi ddeall cenhadaeth a gweinidogaeth yr Eglwys yng Nghymru yn well. Rhoddodd hefyd lawer o'r sgiliau gweithredol sydd eu hangen ar gyfer y swydd hon, megis gwybodaeth gyfrifiadurol, rhaglenni ar-lein, a sgiliau trefnu. Rwy'n ddiolchgar iawn i’r Ymddiriedolaeth am fy nghefnogi drwy’r astudiaethau a'm galluogi wedyn i roi fy angerdd am Ddiwinyddiaeth ar waith.