James Pantefedwyn Foundation

01970 612806post@jamespantyfedwen.cymru

☰ Menu

Heledd Ainsworth

Derbyniais grant Pantyfedwen er mwyn dilyn cwrs LPC ac LLM, sef Cwrs Ymarfer Cyfreithiol yn ogystal â gradd Meistr yn y Gyfraith o Brifysgol Caerdydd. Derbyniais radd Rhagoriaeth. Bu’r cwrs yn angenrheidiol i mi er mwyn dilyn y llwybr gyrfa rwyf arni ar hyn o bryd, sef hyfforddi i fod yn gyfreithwraig. Bu grant Pantyfedwen yn gymorth mawr yn ariannol, gan fod ffioedd cwrs o’r fath yn ddwbl ffi gradd israddedig, felly, roedd derbyn yr ysgoloriaeth yn hwb mawr ac yn rhoi cyfle i mi gyflawni’r ôl-radd yr oeddwn yn dymuno ei astudio. Fe wnes i hefyd fanteisio ar wneud modiwl ychwanegol, sef Eiriolaeth, trwy gyfrwng y Gymraeg fel rhan o’r cwrs.

Rwyf bellach yn gweithio fel Cyfreithwraig dan Hyfforddiant gyda chwmni masnachol dwyieithog yng Nghaerdydd.  Rwy’n arbenigo mewn Cyfraith Cyflogaeth yn ogystal â darparu cyngor ar Fesur y Gymraeg 2011, ac felly yn defnyddio fy Nghymraeg yn feunyddiol wrth gynghori cleientiaid. Fy mwriad gyrfaol yw aros yng Nghymru er mwyn gallu defnyddio fy sgiliau dwyieithog a chynnig cyngor Cymraeg yn ogystal â Saesneg i gleientiaid.