James Pantefedwyn Foundation

01970 612806post@jamespantyfedwen.cymru

☰ Menu

Annabel Morgan

Ni allaf ddiolch digon i Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen am y gefnogaeth hael a ganiataodd imi ddilyn MPhil mewn Astudiaethau Saesneg ym Mhrifysgol Caergrawnt.

Ar ôl graddio gyda gradd mewn Saesneg o Brifysgol Bryste, roeddwn i eisiau parhau â'r ymchwil a ddechreuais gyda fy nhraethawd hir israddedig ar y modd y caiff Cymru ei darlunio yng ngwaith Shakespeare. Gyda’r adnoddau helaeth sydd ar gael yng Nghaergrawnt, roeddwn i’n gwybod mai dyma le roeddwn i eisiau parhau â’m hastudiaethau er mwyn gwneud cyfiawnder â’r maes ymchwil hwn. Diolch byth, gyda chefnogaeth grant James Pantyfedwen, gwireddwyd y freuddwyd hon.

Roedd fy nhraethawd ymchwil yn canolbwyntio ar Gymro annwyl Harri V, Fluellen, a’i gyfoeswyr Cymreig ar y llwyfan modern cynnar. Yn ystod fy amser yng Nghaergrawnt, roeddwn yn gallu cyffwrdd â Ffolio Cyntaf Shakespeare a gweld Harri V ar y dudalen yn ei ffurf wreiddiol, sy'n brofiad y byddaf yn ei drysori am weddill fy oes. Mae’r radd Feistr nid yn unig wedi rhoi gwybodaeth fanwl i mi o le Cymru fodern gynnar ar lwyfan a chynnig i mi nifer o brofiadau bythgofiadwy, ond mae hefyd wedi rhoi hyder i mi ynof fy hun ac yn fy ngallu. Rwyf bellach yn gweithio ym maes marchnata i elusen llyfrau llafar yn Llundain, lle rwy’n gobeithio ehangu ein catalog i gynnwys testunau Cymraeg a datblygu ein gwaith yng Nghymru.

Mae’r ysgoloriaeth wir wedi newid fy mywyd, a byddaf yn ddiolchgar am byth i Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen am wneud hyn yn bosibl. Diolch yn fawr iawn!