James Pantefedwyn Foundation

01970 612806post@jamespantyfedwen.cymru

☰ Menu

Gwydion Hir

Roedd y cwrs MA Hanes a ddarparwyd gan Brifysgol Caerdydd yn un o brofiadau mwyaf gwerthfawr fy mywyd, a hynny diolch i Bantyfedwen. Mae’r MA wedi ehangu fy ngorwelion yn bersonol, ac wedi caniatáu mynediad i hyfforddiant ieithyddol, hanesyddol ac archeolegol. Defnyddiais y sgiliau newydd hyn wrth gwblhau fy nhraethawd ymchwil, a oedd yn archwilio pwysigrwydd naratifau etifeddol i Gymry’r Oesoedd Canol. Rwy’n gobeithio gallu mynd â’m haddysg ymhellach ac yn edrych am gyfle i ddechrau cwrs PhD ym maes hanes canoloesol Cymru. Gobeithio y gallaf gydweithio gyda Phantyfedwen eto yn y dyfodol, Ymddiriedolaeth a’m cefnogodd yn ariannol drwy flwyddyn fwyaf gwerth chweil fy ngyrfa academaidd hyd yma.