James Pantefedwyn Foundation

01970 612806post@jamespantyfedwen.cymru

☰ Menu

Mabon Hari Evans

Hoffwn roi diolch enfawr i’r Ymddiriedolaeth am y grant a dderbyniais ar gyfer fy astudiaeth Meistr Econ - Welsh Government and Politics - ym Mhrifysgol Caerdydd. Cefais y mwyaf allan o’r flwyddyn yma, diolch i’r cymorth a roddwyd, gan sicrhau fod fy ymdrechion llawn dros y flwyddyn ddiwethaf wedi mynd tuag at ddarllen o amgylch y pwnc ac ysgrifennu fy asesiadau.

Gan i mi astudio gradd gyntaf mewn Hanes, roedd astudio’r cwrs yma yn heriol i ddechrau wrth i mi geisio dod yn gyfarwydd â’r testunau a dulliau gwahanol o astudio, ond bu’r heriau yma’n fuddiol iawn i ddatblygu fy sgiliau academaidd ehangach. Ar y cyfan, roedd astudio’r cwrs yn brofiad hynod o ddiddorol, wrth i mi ddysgu’n helaeth am amrywiaeth o themâu a thrafodaethau ar wleidyddiaeth yng Nghymru ac ar draws y byd, yn ogystal ag ehangu fy sgiliau ymchwilio a dadansoddi. Yn fwyaf pwysig, rhoddodd y cwrs gyfle i mi ddarllen, trafod ac ysgrifennu trwy gyfrwng y Gymraeg, rhywbeth nad oeddwn i’n medru gwneud fel myfyriwr israddedig. Ysgrifennais fy nhraethawd hir ar ddylanwad cynghreiriau eiriolaeth o fewn Adolygiad Ffyrdd Llywodraeth Cymru, sydd wedi rhoi llawer o hyder i mi ymchwilio ac ysgrifennu trwy’r Gymraeg ymhellach yn y dyfodol.

Ar ôl blwyddyn galed o waith, rydw i’n mynd i gael saib bach wrth deithio’r byd am ychydig, ac edrych am yrfaoedd yn y gwasanaeth sifil. Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi fy mharatoi’n dda ar gyfer y fath yma o yrfa, a diolch i gymorth yr Ymddiriedolaeth, mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi gosod sylfaen ar gyfer fy nghynlluniau am y dyfodol.