James Pantefedwyn Foundation

01970 612806post@jamespantyfedwen.cymru

☰ Menu

Caitlin Duggan

Rwy’n hynod ddiolchgar i Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen am roi grant i mi i wneud MA mewn Hanes ym Mhrifysgol Caerdydd. Galluogodd y grant i mi allu canolbwyntio’n llwyr ar fy astudiaethau ac rwyf bellach yn fyfyriwr PhD DTP SWW yn archwilio diwylliannau Ysbyty’r GIG ar y cyd â Phrifysgol Bryste, Prifysgol Caerwysg, a Grŵp yr Amgueddfa Wyddoniaeth.

Fe wnaeth trylwyredd academaidd yr MA hogi fy sgiliau mewn ymchwil annibynnol estynedig a nghyflwyno i ddamcaniaethau, ymagweddau a dulliau hanesyddol newydd. Gan ddefnyddio astudiaethau anabledd critigol a’r cysyniad o ymgorfforiad, archwiliodd fy nhraethawd hir anabledd ymhlith menywod yn ne Cymru ddiwydiannol. Dangosodd yr ymchwil sut roedd ‘corff clwyfedig’ menyw yn symbol o wraig a mam dda yn ôl moesau cymdeithasol hynod ryweddol cymunedau’r meysydd glo.

Llwyddais hefyd i gwblhau modiwl treftadaeth, a mwynhau dysgu am le treftadaeth o fewn deddfwriaeth, a’r cyfleoedd a’r heriau o weithio yn y maes. Drwy gydol y modiwl, bûm yn helpu i ddylunio menter gweithredu cymunedol fel prosiect hanes digidol a hynny mewn partneriaeth â Phrosiect Treftadaeth CAER. Cyflwynwyd y prosiect i’r gymuned leol yng Ngorllewin Caerdydd.

Hoffwn fynegi fy niolch unwaith eto i’r Ymddiriedolaeth am ei chymorth hael a wnaeth eleni yn bosibl.