James Pantefedwyn Foundation

01970 612806post@jamespantyfedwen.cymru

☰ Menu

Elen Wyn

Ar fin dechrau fy ail flwyddyn yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ar y cwrs Meistr Perfformio â Llais oeddwn i, pan gefais glywed fy mod i’n cael grant gan Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen. Roedd fy sefyllfa ariannol yn faich trwm arna i ar y pryd, felly galluogodd y cymorth hwn i mi barhau â’m hastudiaethau.

Mae datblygu gyrfa i fy hun sy’n gyfuniad o’m hangerdd at y Gymraeg yn ogystal â chanu wedi bod yn freuddwyd i mi ers yr oeddwn i’n ysgol. Astudiais BA Cymraeg a Cherddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor, cyn symud i Gaerdydd a dechrau ar y cwrs meistr hwn. Er hynny, collais gryn dipyn o hyder ar ôl gadael ysgol, a doedd perfformio ar lwyfan ddim yn rhoi’r un boddhad i mi ag o’r blaen, felly roedd y cwrs hwn yn bwysig iawn i mi geisio gweithio ar hynny.

Rwyf bellach wedi cwblhau fy ngradd Meistr yng Nghaerdydd. Ac nid yn unig hynny, mae canu ar lwyfannau yn agwedd gadarnhaol o’m bywyd i unwaith eto – eleni rwyf wedi canu yn Eisteddfod yr Urdd, canais ar lwyfan yr Eisteddfod Genedlaethol a chipio’r ail wobr yng nghategori’r Mezzo-soprano, canais mewn cyngherddau ledled Cymru a Lloegr ac mae gen i fwy o gyngherddau ac eisteddfodau lleol ar y gweill. Gyda’r holl gymorth o ran techneg llais a phresenoldeb llwyfan, rwy’n teimlo’r hyder yn dod yn ôl. Mae’r ddwy flynedd ddiwethaf wedi bod yn flynyddoedd anhygoel – blynyddoedd llawn profiadau gwerth chweil a chyfarfod pobl sy’n mwynhau bod ar lwyfan fel fi.

Erbyn hyn, rwy’n gweithio fel cyfieithydd llawn amser yng Nghaerdydd hefyd. Mae datblygu’r sgil hwn ar y cyd â pharhau i ddatblygu techneg llais y tu allan i oriau gwaith, yn fy ngalluogi i gymryd y camau gweithredu at wireddu fy mreuddwyd i – cael mwynhad o ddiwylliant Cymru a’i hiaith, a chael canu ar lwyfannau yng Nghymru.

Diolch yn ddiffuant i’r Ymddiriedolaeth am y cymorth hwn.