James Pantefedwyn Foundation

01970 612806post@jamespantyfedwen.cymru

☰ Menu

Anwen Thomas

Dwi mor ddiolchgar i’r Ymddiriedolaeth am fy ngrant. Fe’i defnyddiais i helpu i dalu am fy ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn olaf fy nghwrs Meistr yn y Celfyddydau yn yr Academi Gerdd Frenhinol (RAM), Llundain. Caniataodd y grant i mi wneud y gorau o addysg ar y delyn cyn graddio a dechrau gweithio yn y byd llawrydd.

Dros y flwyddyn yn yr Academi, ges i lawer o gyfleoedd i berfformio, gan gynnwys mewn Dosbarthiadau Meistr efo Anne-Sophie Bertrand a Sylvain Blassel. Perfformiais hefyd mewn cyngherddau gyda fy ensemble ffliwt/fiola/telyn newydd, ‘Albeo Trio’. Rydyn ni fel triawd yn dal i weithio a chwarae gyda’n gilydd, ac mae gennym gyngherddau wedi trefnu dros Gymru a Lloegr yn y misoedd nesaf. Un o uchafbwyntiau’r flwyddyn i mi oedd perfformio mewn cynhyrchiad yr Academi o’r sioe gerdd ‘Carousel’. Fe wnes i wir fwynhau’r profiad o chwarae mewn ‘pit’ a dwi’n gobeithio i gael y cyfle i wneud mwy o’r math yma o chwarae yn broffesiynol yn y dyfodol!

Dwi hefyd wedi gweithio efo adran ‘Academi Agored’ RAM. Trwy hwn, gweithiais gyda Neuadd Wigmore a’u sesiynau ‘Singing with Friends’ ac ‘Out of the Ordinary’ i ddod a cherddoriaeth i bobl sy’n byw efo ‘dementia’ a’u gofalwyr. Gweithiais hefyd efo plant oedran blwyddyn 3 a’r cwmni ‘Hold the Drama’ i greu a pherfformio sioe gerdd ar y thema o berthyn mewn cymuned. Roedd y gwaith yma yn arbennig iawn a dwi’n benderfynol i barhau i ddod a cherddoriaeth i bawb o bob oedran a chefndir.

Trwy astudio yn yr Academi, dwi wedi cael yr addysg gorau efo Catrin Finch a Skaila Kanga. Mae’r gwersi gyda’r ddwy athrawes wedi bod yn anhygoel a dwi’n teimlo’n barod i fod allan yn y byd gwaith, yn dod ag hapusrwydd i bobl trwy berfformio. Mae’r addysg hwn wedi fy helpu i ennill marciau uchel yn fy arholiadau ac i raddio gyda rhagoriaeth yn ogystal â DipRAM. Enillais hefyd y Wobr Delyn 2023 am gael y marc uchaf yn arholiadau terfynol yr adran delyn.

Nawr dwi wedi graddio, dwi’n parhau i ddysgu fy nisgyblion ac i berfformio fel telynores lawrydd. Chwaraeais efo Cerddorfa Symffoni Bournemouth (BSO) yn eu cyngerdd BBC Proms dros yr haf, a dwi’n dechrau fy mlwyddyn fel ‘Foyle Future First’ efo Cerddorfa Ffilharmonig Llundain (LPO), ar ôl ennill y clyweliad ym mis Mehefin. Dwi wir yn mwynhau gweithio fel telynores lawrydd hyd yn hyn, ac ni fyddai wedi bod yn bosibl heb gefnogaeth garedig yr ymddiriedolaeth i fy helpu i gael yr addysg orau. Diolch yn fawr!