James Pantefedwyn Foundation

01970 612806post@jamespantyfedwen.cymru

☰ Menu

Beca Williams

Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen am ei chefnogaeth gyda fy ffioedd dysgu eleni. Ar ôl derbyn gradd Dosbarth Cyntaf BSc Daearyddiaeth Ddynol ym Mhrifysgol Caerdydd, roeddwn yn awyddus iawn i barhau gyda fy astudiaethau, er mwyn datblygu fy hun ymhellach. Fe alluogodd cymorth ariannol yr Ymddiriedolaeth i mi fedru astudio heb ofidio am gostau dysgu a chostau byw. Penderfynais astudio cwrs meistr newydd sbon ym Mhrifysgol Aberystwyth, MSc Newid Ymddygiad. Roedd y cwrs yn uchelgeisiol, yn gyfredol a chyffrous. Golygai naws draws-ddisgyblaethol y cwrs fy mod yn medru ehangu fy ngorwelion wrth astudio modiwlau busnes, seicoleg, daearyddiaeth a gwleidyddiaeth yn ystod y flwyddyn. Mae’r cwrs felly wedi agor drysau i feysydd gwaith nad oeddwn wedi ystyried fel maes gyrfa cyn eleni.

Mae’r maes newid ymddygiad yn gynyddol bwysig yn y byd sydd ohoni, gydag ymddygiad ac arferion gwael, echdynnol yn broblem fyd-eang. Mae hyn yn amlwg iawn wrth geisio lleihau effaith newid hinsawdd ar y ddaear. Yn sgil hyn, cefais gyfle i wrando ar ddarlithoedd gwych am sut i newid ymddygiad unigolion i leihau gwastraff cartref, i leihau defnydd unigol o geir yng Ngheredigion a sut i leihau arferion ysmygu. Yn ogystal, cafwyd siaradwyr gwadd o sefydliadau megis GIG Cymru, Llywodraeth Cymru a Heddlu Dyfed Powys i danlinellu pwysigrwydd y maes a hygrededd y radd meistr i bob amgylchedd. Yn ystod yr haf, cefais swydd ran-amser yn gweithio i brosiect ymchwil CUPHAT y brifysgol yn ymchwilio am ffyrdd i ddatblygu diwydiant twristiaeth yn ucheldiroedd arfordirol Ceredigion a Sir Benfro. Roedd cyd-destun fy ngradd meistr wedi cyfrannu’n helaeth tuag at fy ngallu i wneud y swydd yn llwyddiannus.

Ysgrifennais fy nhraethawd hir am broblem newid ymddygiad lleol. Gan ffocysu ar ymddygiad twristiaid ym Mharc Cenedlaethol Eryri, yn sgil yr ymddygiad gwrth-gymdeithasol sy’n cael ei amlygu ar y cyfryngau, a’r newid enwau diweddar i gyfeirio at Eryri ac Yr Wyddfa yn uniaith Gymraeg. Cefais gyfle i gyfweld ag unigolion dylanwadol iawn yn y maes twristiaeth o sefydliadau megis Llywodraeth Cymru, Cynghorau Sir, Mentrau Iaith ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri. Roedd hefyd yn brofiad gwych cael cynnal arolwg gyda thwristiaid Eryri oedd yn ymweld â’r Wyddfa ym mis Gorffennaf, i weld pa fath o ymddygiad ac arferion oedd angen newid.

Dwi bellach yn dilyn cwrs TAR i fod yn athrawes uwchradd, gyda’r gobaith o sicrhau swydd yng Ngheredigion. Dwi’n gwerthfawrogi haelioni'r Ymddiriedolaeth yn fawr.