James Pantefedwyn Foundation

01970 612806post@jamespantyfedwen.cymru

☰ Menu

Siôn Jones-Davies

Yn dilyn cwblhau fy ngradd Ffiseg ym Mhrifysgol Birmingham, roeddwn yn ffodus iawn i dderbyn grant gan Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen tuag at ffioedd dysgu MSc mewn Ffiseg Ymbelydredd Meddygol ym Mhrifysgol Abertawe. Penderfynais yn gynnar yn fy astudiaethau israddedig yr hoffwn fod yn ffisegydd meddygol, felly roedd yr MSc yn ymddangos yn gam nesaf delfrydol.

Yn ystod yr MSc astudiais y gwahanol arbenigeddau sy'n rhan o ffiseg feddygol: ffiseg radiotherapi, amddiffyn rhag ymbelydredd, meddygaeth niwclear a delweddu gydag ymbelydredd ïoneiddio ac an-ïoneiddio. Yn ystod y cwrs, rhoddodd y prosiectau labordy gyfleoedd amrywiol i mi gymhwyso’r wybodaeth ddamcaniaethol i sefyllfaoedd ymarferol; er enghraifft, bûm yn creu cynlluniau triniaeth ar gyfer radiotherapi, dadansoddi sganiau MRI ac ymchwilio i ffynonellau ymbelydrol. Roedd fy nhraethawd hir wedi’i leoli yn yr adran feddygaeth niwclear o fewn Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, lle ymchwiliais i ffyrdd o wella elfen o arfer clinigol yn ymwneud â chlefyd y thyroid gan ddefnyddio’r radioisotop ïodin-123.

Yn ogystal â bod yn heriol yn ddeallusol ac yn gyfle i mi ddyfnhau fy nealltwriaeth o ffiseg, mae’r MSc wedi bod yn hynod fuddiol ar gyfer fy ngyrfa, gan fy mod eisoes wedi dechrau gweithio fel gwyddonydd clinigol dan hyfforddiant mewn meddygaeth niwclear yn Ysbyty Singleton. Rwy’n ddiolchgar iawn am gefnogaeth yr Ymddiriedolaeth gan y bu’n help sylweddol i gyflawni fy ngradd ôl-raddedig ac felly ymgeisio’n llwyddiannus am swydd gwyddonydd clinigol dan hyfforddiant. Rwy'n falch iawn o allu parhau ym maes cyffrous ffiseg feddygol.