James Pantefedwyn Foundation

01970 612806post@jamespantyfedwen.cymru

☰ Menu

Kate Matthews

Roedd y grant a gefais gan Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen yn golygu nad oedd yn rhaid i mi boeni am gost fy ffioedd dysgu wrth astudio ar gyfer gradd Meistr yn y Biowyddorau. Caniataodd hyn i mi ganolbwyntio’n llwyr ar fy astudiaethau a manteisio ar bob cyfle a gynigiwyd yn ystod fy amser ym Mhrifysgol Aberystwyth. Un o’r profiadau mwyaf cofiadwy a gefais oedd taith bysgota oddi ar arfordir Gogledd Cymru i gasglu samplau ar gyfer fy mhrosiect ar y cynefin artiffisial a grëwyd gan Fferm Wynt Gwynt y Môr. Ni fyddaf fyth yn anghofio’r profiad hwn – golygai fy mod allan yn y maes yn cynnal ymchwil newydd a chyffrous, a chefais fy atgoffa pam y dewisais astudio gwyddorau bywyd yn y lle cyntaf. Cefais hefyd ddal siarc!

Trwy gydol y cyfnod ymchwil, enillais sgiliau amhrisiadwy, gan gynnwys dadansoddi genetig, adnabod tacsonomig, a sut i gynnal ymchwil annibynnol yn hyderus. Bydd y sgiliau yma i gyd yn werthfawr iawn i’m gyrfa yn y dyfodol, gan obeithio y bydd modd i mi ganolbwyntio ar yr amgylchedd a chadwraeth rhywogaethau o fewn byd sy’n newid yn barhaus. Diolch i’r gefnogaeth a gefais gan Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen, rwy’n fwy penderfynol nag erioed i weithio ym maes gwyddor y môr a gallu gwneud gwahaniaeth.