James Pantefedwyn Foundation

01970 612806post@jamespantyfedwen.cymru

☰ Menu

Gwenffrewi Morgan

Rwy’n hynod ddiolchgar i Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen am gynnig grant tuag at fy ffioedd MPhil yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen. Galluogodd hyn i mi ganolbwyntio ar fy ngwaith a datblygu fy nhraethawd hir ar ‘Hagiographers and the Hills: Enviro-cultural History in South-West Britain’.

Trwy’r gwaith hwn, datblygais ddull newydd o ddarllen hagiograffeg o’r ddeuddegfed ganrif o Dde Cymru a De Orllewin Lloegr. Roedd y rhain yn archwilio sut yr oedd cofianwyr y Seintiau yn cysyniadoli eu pynciau ac yn eu gweld wedi’u rhwymo mewn gweoedd cymhleth sy’n cynnwys y Seintiau, Duw (y Summus Creator), a'u disgynyddion trwy amser. O ddarllen y testunau hyn yn fanwl a gweld y byd a grëwyd gan yr hagiograffwyr, roeddwn yn gallu datblygu mewnwelediad newydd i feysydd eraill o Hanes Cymru a Phrydain yn yr Oesoedd Canol, megis yr enwau lleoedd a ddefnyddid.

Ym mis Medi 2023 dechreuais ar astudiaeht PhD ym Mhrifysgol St Andrews, yn edrych ar sut roedd awduron canoloesol yn ystyried yr amgylchedd mewn cyfnod hanesyddol yng ‘Ngorllewin Prydain’, rhanbarth synthetig sy’n canolbwyntio ar Gymru. Mae hyn yn ymestyn fy ngwaith meistr i ffynonellau newydd, a bydd yn cynhyrchu dadansoddiad sy’n canolbwyntio ar Gymru ac yn ystyried datblygiad y meddwl amgylcheddol ym Mhrydain yn yr Oesoedd Canol.