James Pantefedwyn Foundation

01970 612806post@jamespantyfedwen.cymru

☰ Menu

Megan Elen Huws

Roedd dilyn cwrs Meistr Ymarfer Cyfreithiol (LLM Legal Practice Course) ym Mhrifysgol Caerdydd yn bleser. Mi fyddai astudio am fy mhumed flynedd yn y brifysgol wedi bod yn anodd iawn heb gymorth a chefnogaeth Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen.

Ar ôl derbyn gradd Dosbarth Cyntaf BA Cymraeg ac Athroniaeth yn 2021, dilynais y cwrs Diploma Graddedig yn y Gyfraith. Hwn oedd y tro cyntaf i mi astudio'r Gyfraith, felly roedd yn gam mawr yn fy ngyrfa, ond rwy'n hapus iawn gyda fy mhenderfyniad. Ar ôl ei gwblhau, penderfynais i barhau ym maes y Gyfraith a dilyn y cwrs Meistr Ymarfer Cyfreithiol gan ei fod am ganiatáu i mi gaffael y sgiliau, y wybodaeth a'r agwedd i ‘mharatoi ar gyfer hyfforddi fel cyfreithiwr, fy mharatoi i ddelio â'r gofynion ymarferol, ac annog hyder a phroffesiynoldeb. Roedd natur ddwys, ryngweithiol y cwrs wedi fy ngalluogi i brofi rhai o ofynion unigryw'r gwaith fel cyfreithiwr.

Erbyn hyn, rwyf wedi cael gwybod fy mod wedi pasio'r Cwrs Ymarfer Cyfreithiol ac yn gymwys i ymarfer fel cyfreithiwr, sy'n rhyddhad mawr ar ôl blwyddyn heriol o arholiadau. Dilynais gwrs ychwanegol er mwyn ennill cymhwyster Eiriolaeth yn y Gymraeg yn ystod yr haf, ble y cefais gyfle i eirioli o flaen Cwnsleriaid Cymreig (KC). Rwyf hefyd wedi cyflwyno fy nhraethawd estynedig ar ôl gweithio arno drwy'r haf, traethawd ar yr heriau sy'n wynebu'r byd cyfreithiol heddiw, gan ganolbwyntio'n bennaf ar gontractau dim oriau a'r economi GIG, a dod i gasgliad bod angen diwygio'r gyfraith yn y DG am ei bod yn rhy ansicr i weithwyr. 

Mae fy ngyrfa ar ddechrau, ac mae rwyf wedi cael swydd yn Capital Law Ltd yng nghanol Caerdydd yn yr adran Cyflogaeth & Mewnfudo. Flwyddyn nesaf, byddaf yn dechrau fy Nghontract Hyfforddi gyda'r cwmni, ble caf flas ar amryw o feysydd, gan gynnwys Cyfraith Anghydfod, Busnes, ac Eiddo. Fy nod yw aros yng Nghaerdydd fel cyfreithiwr ar hyn o bryd, a hynny'n bennaf am i mi fyw yma am chwe blynedd yn ogystal ag am gyfnod yn ystod fy mhlentyndod a theimlo ymrwymiad i’r ddinas am yr hyn y mae wedi’i roi i mi. Rwyf wedi bod yn ffodus o greu cysylltiadau drwy ryngweithio yn barod, ac wedi cael fy mhenodi fel Swyddog y Gymraeg i’r Junior Lawyer's Division, Caerdydd a De-ddwyrain Cymru. Edrychaf ymlaen at ddechrau fy rôl.

Dilyn gyrfa ystyrlon ble y gallaf wneud gwahaniaeth sy'n fy ysgogi, ac mae Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen wedi fy ngalluogi i ddilyn y llwybr cywir at hynny. Diolch anferth i'r Ymddiriedolaeth am eich haelioni.