James Pantefedwyn Foundation

01970 612806post@jamespantyfedwen.cymru

☰ Menu

Elin Angharad Morgan

Wedi i mi dderbyn grant Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen, cychwynais gwrs Hyfforddiant y Bar gyda chwrs Meistr y Gyfraith ym Mhrifysgol Caerdydd. Bu hyn yn dilyn cyflawni gradd yn y gyfraith o Brifysgol Birmingham. Heb y grant ffantastig yma, ni fyddai’r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn bosib. 

Nid ydy benthyciad cyllid myfyrwyr Cymru yn ddigon i ariannu’r cwrs ei hun am ei fod yn un drud. Yn ogystal â chwblhau’r cwrs, roedd rhaid i fi deithio i Lundain ar sawl achlysur i gyflawni’r sesiynau cymhwyso sy’n ofynnol. Golygai’r grant fy mod wedi gallu cyflawni’r cwrs, canolbwyntio ar fy astudiaethau a chario ‘mlaen efo fy niddordebau allgyrsiol. Llwyddais hefyd i gwblhau traethawd hir LLM yn ffocysu ar yr effaith mae stereoteipiau yn ei gael ar benderfyniadau rheithgorau mewn achosion.

Yn dilyn cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus, cefais fy ngalw i Far Cymru a Lloegr yng Ngorffennaf 2023. Dwi hefyd wedi cychwyn pupillage gydag Apex Chambers, bar-gyfreithwyr troseddol yng Nghaerdydd, a phan ddaw’r flwyddyn hon i ben, byddaf wedi darfod 5 mlynedd o hyfforddiant i fod yn far-gyfreithwraig!

Dwi methu diolch digon i staff ac Ymddiriedolwyr James Pantyfedwen am eu gwaith yn sicrhau grantiau fel hyn. Diolch!