James Pantefedwyn Foundation

01970 612806post@jamespantyfedwen.cymru

☰ Menu

Hannah Lowri Roberts

Byddaf yn fythol diolchgar i Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen am gefnogi fy astudiaethau. Derbyniais grant sydd wedi fy ngalluogi i astudio'r fiola ar gwrs meistr Orchestral Artistry yn Ysgol Cerdd a Drama y Guildhall dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae’r cwrs Orchestral Artistry yn gysylltiedig â Cherddorfa Symffoni Llundain (yr LSO) ac felly rwyf wedi elwa cymaint o’r profiadau bythgofiadwy trwy gydol fy astudiaethau uwchraddedig.

Rwyf wedi chwarae fel rhan o’r adran fiola yr LSO mewn ‘Sit Ins’ gyda Syr Simon Rattle, yn ogystal â mynychu gweithdai cerddorfaol ochr yn ochr gydag aelodau o’r gerddorfa. Rwyf hefyd wedi mynychu dosbarthiadau sy’n ymdrin ag ‘orchestral excerpts’, dosbarthiadau chwarae ar yr olwg gyntaf a chymryd rhan mewn clyweliadau ffug ble derbyniais adborth gan aelodau o wahanol adrannau'r gerddorfa. Dwi hefyd wedi mynychu sesiynau gwaith allgymorth gydag adran ‘LSO Discovery’. Mae wedi bod yn anrhydedd anferthol i fedru gweithio ochr yn ochr â Cherddorfa Symffoni Llundain a chael cipolwg ar y byd proffesiynol, yn gerddorol ac yn gymdeithasol. Mae astudio ar y cwrs yma wedi fy ngalluogi i ddatblygu’r sgiliau angenrheidiol i fynychu gyrfa lwyddiannus fel cerddor cerddorfaol.

Dwi wedi mwynhau datblygu fy mhrofiad cerddorfaol ymhellach dros y flwyddyn ddiwethaf. Rwyf wedi mwynhau darganfod, gweithio a pherfformio cerddoriaeth newydd mewn amryw o brosiectau gwahanol megis Cerddorfa Opera Ysgol y Guildhall ac Ensemble Llinynnol y Guildhall. Rwyf hefyd wedi perfformio yn achlysurol yn Neuadd y Barbican fel aelod o Gerddorfa Symffoni'r Guildhall. Mi oedd yn fraint fawr medru perfformio mewn prosiect ochr yn ochr gyda’r London Mozart Players eleni. Dros y flwyddyn ddiwethaf, rwyf wedi dechrau gweithio’n broffesiynol gyda Cherddorfa Symffoni Llundain a Sinffonia Cymru.

Rwyf yn hynod ddiolchgar i fy athrawon, Matthew Jones a Germán Clavijo, yn ogystal â fy holl diwtoriaid sydd wedi fy nghefnogi ac ysbrydoli yn ystod fy nghyfnod yn ysgol y Guildhall.  Dwi wedi parhau i ehangu fy ngorwelion yn Llundain fel unawdydd, chwaraewr siambr a cherddorfaol dros y flwyddyn ddiwethaf. Dwi wedi mwynhau perfformio’n rheolaidd gyda fy ngrŵp siambr (Chiarina Piano Quartet). Rydym wedi derbyn sesiynau hyfforddi yn rheolaidd, ac yn 2022, enillon ni'r wobr Ivon Sutton. Yn ogystal, ges i fy newis i berfformio yng Ngŵyl Siambr y Guildhall eleni i berfformio Octet Enescu gyda fy nghyfoedion ac athrawon.

Dwi wedi manteisio’n fawr o’r cyfleoedd perfformio sydd wedi bod ar gael i mi drwy gydol fy ngradd meistr. Ges i'r fraint o chwarae mewn dosbarth meistr gyda Patrick Jüdt eleni, yn ogystal â pherfformio’n rheolaidd mewn cyngherddau, dosbarthiadau fiola a dosbarthiadau llinynnol. Mae’r holl brofiadau hyn wedi fy ngalluogi i ddatblygu fy chwarae i’r safon uchaf posib.

Fy brif gynllun gyrfaol ar gyfer y dyfodol yw ennill swydd fel aelod o adran fiola mewn cerddorfa Brydeinig. Mae derbyn addysg o’r safon uchaf yn Ysgol y Guildhall wedi fy ngalluogi i i sefydlu carreg camu o fod yn fyfyrwraig i ddechrau fy ngyrfa broffesiynol yn y byd cerddoriaeth. Dwi’n gyffrous i weld beth sydd o fy mlaen!