James Pantefedwyn Foundation

01970 612806post@jamespantyfedwen.cymru

☰ Menu

Marged Elen Wiliam

Hoffwn fynegi fy niolchgarwch i’r Ymddiriedolaeth am fuddsoddi yn fy astudiaethau MPhil yng Ngholeg Girton, Prifysgol Caergrawnt. Heb y nawdd ariannol hwn ni fyddwn wedi medru manteisio ar y cyfle i astudio yn y Ganolfan Astudiaethau De Asia (Centre of South Asian Studies) gyda rhai o academyddion mwyaf blaenllaw y maes.

Yn ystod fy nghyfnod yn astudio ar gyfer fy ngradd gyntaf mewn Gwleidyddiaeth Ryngwladol yng Ngholeg King’s, Llundain, dilynais fodiwlau ar ddamcaniaeth ôl-drefedigaethol, crefydd a gwleidyddiaeth, a theori wleidyddol gymharol. Darlithydd y modiwlau yma oedd fy nhiwtor traethawd hir; taniodd Dr Humeira Iqtidar fy chwilfrydedd yn hanes, gwleidyddiaeth ac athroniaeth De Asia, ac fe’m hanogodd i ymgeisio am le ar gwrs Astudiaethau De Asia Fodern ym Mhrifysgol Caergrawnt. 

Profodd y cwrs fy ngwydnwch i'r eithaf. Roedd rhaid cydbwyso cyflwyniadau wythnosol, seminarau aml-ddisgyblaethol, dysgu iaith gwbl newydd, ac ymchwil ar gyfer fy nhraethawd hir. Roedd y modiwl craidd yn gyfle i archwilio ystod eang o gysyniadau, themâu a dadleuon o fewn Astudiaethau De Asia Fodern. Un o fy hoff elfennau o’r cwrs oedd y modiwl iaith - cyfle unigryw i ddysgu Hindi ar lafar ac i ysgrifennu script Devanagri. Roedd y traethawd hir yn gyfle i fireinio fy sgiliau ymchwil ac ysgrifennu, ac ymchwiliais i seciwlariaeth yn India ôl-drefedigaethol gan edrych drwy lens polisi addysg.

Gan mai fi oedd yr unig fyfyriwr o Brydain, cefais gyfle i ddatblygu cyfeillgarwch gyda phobl o bob rhan o’r byd. Roedd hyn yn gwbl amhrisiadwy a byddaf yn trysori’r perthnasau hyn.

Yn ystod y misoedd diwethaf cyhoeddwyd, Aniq (Gwasg y Lolfa) fy nofel gyntaf ar gyfer pobl ifanc. Sgil effaith anuniongyrchol y cwrs oedd dyfnhau fy nealltwriaeth ddiwylliannol a chrefyddol o Dde Asia, sy’n elfen amlwg o fewn y nofel. Yn ddiweddar hefyd fe’m penodwyd yn Swyddog Polisi a Materion Allanol gyda’r Cyngor Meddygol Cyffredinol (GMC) yng Nghaerdydd, swydd na fyddwn wedi bod mewn sefyllfa i ymgymryd â hi oni bai am y sgiliau ymchwil uwch a ddatblygwyd yn ystod y cwrs hwn.

Hoffwn ddiolch eto i’r Ymddiriedolaeth am fy ngalluogi i astudio’r maes hynod ddifyr a chyfredol hwn yn un o adrannau Astudiaethau De Asiaidd gorau’r byd.