James Pantefedwyn Foundation

01970 612806post@jamespantyfedwen.cymru

☰ Menu

Manon Elin James

Diolch i gefnogaeth ariannol Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen, astudiais am radd MPhil yn Adran y Gymraeg, Prifysgol Aberystwyth, gan dderbyn y radd honno yn 2018.

Mae fy nhraethawd MPhil yn archwilio effeithiolrwydd y Canolfannau Cymraeg a sefydlwyd â grantiau gan Lywodraeth Cymru o’u cymharu â Chanolfannau Cymraeg cymunedol a fodolai eisoes ar sail wirfoddol. Eir hefyd i'r afael â'r dadleuon y maent yn eu cymell ynghylch cynllunio ieithyddol, cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru, ac agweddau ar ddwyieithrwydd. Yn ogystal â chraffu'n fanwl ar bum Canolfan Gymraeg yn unigol, ymdrinnir â'r amryw o ddadleuon o blaid ac yn erbyn y cysyniad o Ganolfannau Cymraeg yn gyffredinol. Yn benodol, trafodir manteision ac anfanteision gofodau Cymraeg penodedig, ynghyd â'r ddadl eu bod yn creu 'getoau'.

Canfu’r ymchwil bod cefnogaeth gref i’r cysyniad o Ganolfannau Cymraeg, ond nad yw’r model presennol o ganolfannau, drwy grant y Llywodraeth, yn ateb y diben. Amlygwyd nifer o broblemau gan gynnwys diffyg ymchwil cefndirol, cynllunio, cefnogaeth ac arweiniad o du’r Llywodraeth. Cloir y traethawd ag argymhellion sy'n cynnig datrysiadau i'r Llywodraeth ynghylch sut i gefnogi'r Canolfannau Cymraeg a chanolfannau cymunedol Cymraeg yn y dyfodol.

Wrth weithio ar yr MPhil datblygwyd fy niddordeb mewn gwaith ymchwil, ac rwyf bellach yn gweithio ar draethawd PhD yn archwilio hanes ac arwyddocâd Mudiad a Chwmni Adfer, sydd hefyd yn cael ei ariannu gan yr Ymddiriedolaeth.

Hoffwn bwysleisio gymaint o anogaeth oedd derbyn yr ysgoloriaeth hon, a diolch eto i’r Ymddiriedolaeth am ei chefnogaeth werthfawr.