James Pantefedwyn Foundation

01970 612806post@jamespantyfedwen.cymru

☰ Menu

Gwilym Tudur

Trwy gefnogaeth ariannol Ymddiriedolaeth Pantyfedwen, fe’m galluogwyd i astudio gradd MPhil mewn diwinyddiaeth yn Neuadd Wycliffe, Prifysgol Rhydychen. Rwyf yn hynod o ddiolchgar i’r ymddiriedolaeth am eu nawdd hael wnaeth ganiatáu i mi astudio fy nghwrs yn rhydd o faich ariannol.

MPhil yn canolbwyntio’n benodol ar hanes a datblygiad diwinyddiaeth Gristnogol yng Nghymru rhwng 1750 a 1850 oedd y cwrs hwn. O dan oruchwyliaeth Dr Andrew Atherstone – yr hanesydd eglwysig a chofiannydd yr Archesgob Justin Welby – ysgrifennais draethodau ar amrywiol agweddau o ddiwinyddiaeth Ddiwygiedig y cyfnod. Roedd y rhain yn cynnwys asesiad o eglwyseg y diwinydd Presbyteraidd, Lewis Edwards (1809-1887); astudiaeth o anthropoleg yr Annibynnwr efengylaidd, Azariah Shadrach (1774-1844); ynghyd â thraethawd ar ddiwinyddiaeth gyfamodol yr ysgolhaig Calfinaidd, George Lewis (1763-1822). Gweithiau diwinyddol George Lewis oedd hefyd testun ymchwil fy nhraethawd hir a aeth ati i drafod hermeniwteg ei esboniad ysgrythurol saith cyfrol, Esponiad ar y Testament Newydd (1802-1829). Er mai’r cyfrolau swmpus hyn oedd yr esboniad cyflawn cyntaf ar y Testament Newydd yn yr iaith Gymraeg, nid ydynt wedi cael sylw digonol gan ysgolheigion. Bwriad fy nhraethawd oedd unioni hyn trwy bwyso a mesur llwyddiant yr esboniad ynghyd â natur ei ddylanwad ar feddwl y Cymry. 

Yn ddi-os, cefais fudd eithriadol o astudio’r MPhil hwn. Yn ystod y cwrs dwy flynedd hwn, cefais gyfle i fireinio fy sgiliau ymchwil trwy astudio nifer o ffynonellau gwreiddiol yn Llyfrgell y Bodleian, Rhydychen, Llyfrgell Brydeinig, Llundain, a Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth. Roedd y seminarau ymchwil a gynhaliwyd i fyfyrwyr y cwrs hefyd o fudd gan iddynt ganiatáu i mi drafod fy syniadau gyda haneswyr eglwysig eraill. Yn wir, roedd yn fraint cael gwrando ar ysgolheigion blaenllaw – gan gynnwys yr Athro Diarmaid MacCulloch a’r Athro Sarah Foot – yn rhannu ffrwyth eu gwaith ymchwil yn y seminarau hyn. Diolch eto i Bantyfedwen am fy ngalluogi i wneud hyn!

Ar ôl gorffen fy ngwaith ymchwil yn Rhydychen, byddaf fi a’m gwraig, Alexandra, yn symud i Geredigion er mwyn i mi gychwyn ar fy ngwaith fel gweinidog newydd Eglwysi Annibynnol Seion, Aberystwyth, a Bethel, Tal-y-bont. Yn ddiau, bu’r MPhil mewn diwinyddiaeth yn baratoad defnyddiol ar gyfer y weinidogaeth gan iddo finiogi fy nealltwriaeth o’r Beibl a’m dirnadaeth o athrawiaethau’r ffydd Gristnogol. Er fy mod wedi cael fy ngalw i wasanaethu fel gweinidog, gobeithiaf gychwyn ar gwrs doethuriaeth yn y dyfodol er mwyn astudio diwinyddiaeth George Lewis ymhellach.