James Pantefedwyn Foundation

01970 612806post@jamespantyfedwen.cymru

☰ Menu

Catriona Coutts

Roeddwn yn ddigon ffodus i dderbyn grant gan Bantyfedwen am y tair blynedd o PhD. Gwnaeth hyn wahaniaeth mawr i mi, gan nad oedd yn rhaid i mi weithio’n rhan amser tra’n astudio ac roeddwn yn fwy rhydd i fynychu cynadleddau, megis yr un ym Mhrifysgol Harvard, oedd yn brofiad arbennig.

Roedd fy mhrosiect PhD ar y cyd rhwng Adrannau Llenyddiaeth Saesneg ac Ieithoedd Modern Prifysgol Bangor, ac roedd gen i arolygydd yn y ddwy adran. Teitl y traethawd oedd ‘Resistance in the ‘Oppressor’s Tongue: English-language Welsh Writers and Spanish-language Catalan Writers’, a’i nod oedd cymharu awduron yn y ddwy lenyddiaeth o bersbectif llenyddiaeth gwrthsafiad, hynny yw, llenyddiaeth oedd yn rhan o’r mudiad gwrthsefyll neu yn fwy eang, unrhyw lenyddiaeth  oedd yn ‘gwrthsefyll’ hegemoni gwleidyddol neu ddiwylliannol. Beth bynnag oedd iaith y gwahanol awduron, daethpwyd i’r casgliad y gellid eu hystyried fel cyfrannwyr i lenyddiaeth gwrthsefyll Cymraeg/Catalaneg mewn gwahanol ffyrdd.  Hyd y gwn i, dyma’r tro cyntaf i’r ddwy lenyddiaeth gael eu cymharu fel hyn, ac yn benodol, o bersbectif ‘gwrthsafiad’. Roedd y gwaith yn dipyn o her, gan fod yn rhaid darllen testunau mewn pedair iaith (Saesneg, Cymraeg, Sbaeneg a Chatalaneg) a gwneud llawer o waith ymchwil cefndirol. Ond cefais flas mawr ar y rhan fwyaf o’r gwaith, ac yn ystod y cyfnod, cefais gyfle i ddatblygu sgiliau ymchwil a chyflwyno, a chynyddu mewn hyder.

Fy ngobaith yw parhau yn y byd academaidd, yn darlithio ac ymchwilio. Derbyniais gefnogaeth anhygoel yn ystod cyfnod fy ngradd gyntaf a’m gradd Meistr, o ran dysg a gofal, ac yna, cael cydweithio gyda dau arolygydd gwych yn ystod fy PhD. Byddwn wrth fy modd yn cael darparu’r un math o ddysg a gofal i fyfyrwyr y dyfodol. Hoffwn hefyd ehangu’r PhD, gan edrych yn benodol ar awduron benywaidd yn y ddwy lenyddiaeth ac, o bosib, ehangu’r ymchwil i gynnwys llenyddiaethau cenhedloedd di-wladwriaeth megis yr Alban, Llydaw, Gwlad y Basg a Galicia.

Mae penderfynu gwneud PhD yn ymrwymiad anferth, gan ei fod yn gymaint o waith ac yn golygu oedi chwilio am swydd am dair blynedd o leiaf. Mae’n ddigon posib na fyddwn wedi mentro arni heb gymorth ariannol, felly mae derbyn grant gan Bantyfedwen wedi gwneud cymaint o wahaniaeth i ‘mywyd i.  Diolch o galon am bopeth.