James Pantefedwyn Foundation

01970 612806post@jamespantyfedwen.cymru

☰ Menu

Olivia Jago

Bu’r flwyddyn ddiwethaf yn un hynod brysur i mi wrth astudio cwrs Meistr mewn Cerddoriaeth yn y  Royal Northern College of Music ym Manceinion. O fewn y coleg, bû yn rhan o nifer o brosiectau cerddorfaol gan gynnwys prosiect Cerddorfa Simffonia’r RNCM yn y Bridgewater Hall, Gŵyl Cantiere yn Montepulciano yn yr Eidal, a phrosiectau Cerddorfa Siambr Ewrop a Camerata Manceinion. Fel unawdydd, llwyddais i gyrraedd rownd derfynol Cystadleuaeth Concerto’r RNCM wrth berfformio Concerto Rhif 2 Prokofiev ar gyfer y Feiolin, a bûm yn rhan o Ddosbarth Meistr gyda’r athro enwog Mauricio Fuchs a’m hathro Yair Kless ar gwrs yn Sindelfingen yn yr Almaen. Cafodd fy mhedwarawd llinynol dipyn o lwyddiant eleni hefyd a chael eu gwahodd i fod ar restr perfformwyr allanol y coleg gan arwain at nifer o gyngherddau o gwmpas Gogledd Orllewin Lloegr.

Llwyddais hefyd i’m sefydlu fy hun fel feiolinydd cerddorfaol llawrydd, gan weithio gyda Camerata Manceinion a Sinffonia Cymru. Mae’r uchafbwyntiau’n cynnwys perfformio yng Ngŵyl Ynys Wyth gyda’r Manchester Camerata a theithio i Abu Dhabi i berfformio Tosca gyda Sinffonia Cymru a Syr Bryn Terfel. Cyrhaeddais rownd derfynol Cystadleuaeth y Rhuban Glas i offerynwyr yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn Llanrwst yn ogystal, a chael felly berfformio’n fyw ar S4C.

Nid wyf eto wedi derbyn fy nghanlyniad terfynol, ond bu’r flwyddyn yn y RNCM yn gyfoethog o brofiadau, ac rwyf bellach yn adeiladu cyfoeth o waith a phrofiadau fydd yn wych wrth i mi adael y coleg. Rwy’n symud i Lundain yn fuan i ddechrau cwrs Dysgu Grwpiau Offerynnol gyda’r London Music Masters. Byddwn wrth fy modd yn gallu cydbwyso gwaith dysgu a pherfformio a gobeithio y bydd y cwrs pellach yma’n help i wneud hynny’n llwyddiannus. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at y cam nesaf yma a hoffwn ddiolch o waelod calon i Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen am eu cefnogaeth hael; ni fyddai wedi bod yn bosib i mi gyflawni’r flwyddyn ddiwethaf heb eu cymorth. A gobeithio fod yr adroddiad uchod yn profi mor werthfawr fu’r buddsoddiad ar gyfer fy ngyrfa.