James Pantefedwyn Foundation

01970 612806post@jamespantyfedwen.cymru

☰ Menu

Nia Heledd George

Mae fy niolch yn enfawr i Ymddiriedolaeth Pantyfedwen. Yn dilyn derbyn ysgoloriaeth gan yr Ymddiriedolaeth, cefais wireddu'r cam nesaf yn fy addysg.

Fe alluogodd yr ysgoloriaeth i mi astudio’r cwrs MA Newyddiaduraeth Darlledu ym Mhrifysgol Caerdydd. Yn ariannol, roedd yr ysgoloriaeth yn amhrisiadwy ac wedi golygu bod modd i mi gyflawni ôl-radd heb boeni am y gost. Ond roedd hefyd wedi bod yn hwb personol o ran hyder gan i’r Ymddiriedolaeth gredu ynof.

Dwi wedi cael gymaint o foddhad wrth gwblhau'r radd ac wedi dysgu cymaint mewn blwyddyn. Cefais gyfle i ddysgu sut i wneud pecynnau newyddion radio, teledu, newyddion ar gyfer y cyfyngau cymdeithasol a llawer iawn mwy. Mae Ysgol Newyddiaduraeth Caerdydd yn cael ei pharchu o fewn y diwydiant newyddiadurol a dwi’n teimlo’n ffodus iawn fy mod wedi cael fy addysg gan rhai o’r goreuon yn y maes.

Ond yn fwy byth mae’r cwrs wedi caniatáu i mi ddod i adnabod pobl ar lawr gwlad a rhannu eu straeon. Un o’r pynciau y treuliais lawer o’m hamser yn ymchwilio a chyfweld ar ei gyfer oedd yr argyfwng ail dai yng Ngwynedd ar gyfer fy mhrosiect diwedd tymor. Braf oedd cael adrodd problemau a sialensiau pobl o fy mro fy hun (gan mai hogan o’r Gogledd ydw’i) a cheisio gwneud gwahaniaeth a thynnu sylw at bynciau pwysig.

Erbyn hyn, dwi wedi graddio gyda rhagoriaeth mewn MA Newyddiaduraeth Darlledu o Brifysgol Gaerdydd, gradd sydd wedi rhoi cyfleoedd swyddi i mi gyda Radio Cymru ar raglenni fel Dros Frecwast a Tharo’r Post. Erbyn hyn dwi’n newyddiadurwr digidol llawn amser gyda Newyddion S4C ac yn cael y fraint o roi llais i bobl yng Nghymru a thu hwnt yn ddyddiol.

Yn sicr, byddai fy ngyrfa wedi edrych yn wahanol iawn heb y sgiliau a ddysgais yn ystod fy nghwrs ôl-radd, ac mae’r diolch mwyaf i Ymddiriedolaeth Pantyfedwen am ymddiried ynof a rhoi cyfle i mi. Diolch.